Mae Andrew Morton yn y gyfrol hon yn edrych ar nodweddion botanegol coed yw, a sut i'w mesur a'u dyddio; ar goeden yw mewn llenyddiaeth Gristnogol a chyn-Gristnogol, mewn chwedlau, ac ar y berthynas rhwng coed yw a safleoedd Cristnogol hynafol. Ceir manylion am goed yw hynafol yn Defynnog, Gwytherin, Llangernyw, Llanerfyl a Phennant Melangell. -- Cyngor Llyfrau Cymru